SL(5)344 – Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru)

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ceisiadau i Weinidogion Cymru amrywio cydsyniadau i adeiladu, estyn a gweithredu gorsafoedd cynhyrchu trydan alltraeth penodol yn nyfroedd Cymru sydd wedi eu rhoi o dan adran 36 o Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989”).

Bydd adran 36C o Ddeddf 1989 yn caniatáu, o 1 Ebrill 2019, i berson sydd â’r hawl i gael budd o’r cydsyniad adran 36 i wneud cais i Weinidogion Cymru, amrywio’r cydsyniad hwnnw o dan amgylchiadau penodol. Bydd hyn yn bosibl pan fo'r cydsyniad yn ymwneud â gorsaf gynhyrchu (neu orsaf gynhyrchu arfaethedig) yn nyfroedd Cymru nad yw’n fwy na 350 megawat (neu na fydd yn fwy na hynny).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch gwneud ceisiadau amrywio i Weinidogion Cymru. Mae hyn yn cynnwys:

·      yr hyn y mae’n rhaid ei gynnwys mewn cais amrywio neu y mae’n rhaid iddo fynd gyda chais amrywio;

·      gofynion hysbysu a chyhoeddusrwydd;

·      pryd y mae ymchwiliadau cyhoeddus i’w cynnal;

·      tynnu ceisiadau amrywio yn ôl; ac

·      estyn yr amser a ganiateir ar gyfer cam penodol o dan y Rheoliadau hyn. 

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru a Lloegr) 2013 i'r graddau y maent yn gymwys i gais i Weinidogion Cymru o dan adran 36C o Ddeddf 1989.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae Rheoliad 5(5)(c) yn nodi bod yn rhaid cyhoeddi cais amrywio “...mewn un neu ragor o bapurau newydd cenedlaethol”. Fodd bynnag, nid yw'r Rheoliadau yn nodi a yw “cenedlaethol” yn cyfeirio at bapur newydd cenedlaethol yng Nghymru neu bapur newydd yn y DU.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

Mae Rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau amrywiol a ddefnyddir yn y Rheoliadau. Dywedir bod y diffiniad o “awdurdod cynllunio perthnasol” yn cynnwys (o dan yr amgylchiadau a restrir yn y Rheoliadau) awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr ac Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, (fel y nodir gan yr ymgeisydd o dan Reoliad 3(1)(e) neu gan Weinidogion Cymru o dan Reoliad 4(7), fel cyrff sy'n debygol o fod â buddiant yn y cais amrywio). Nid yw'r diffiniad hwn yn cynnwys cyfeiriadau at gyrff cyfatebol priodol yn yr Alban nac yn Ynys Manaw. Deallwn mai'r rheswm dros beidio â chynnwys yr Alban yn y darpariaethau hyn yw'r pellter rhwng dyfroedd Cymru a'r Alban. Fodd bynnag, nid yw'n glir pam nad yw Ynys Manaw wedi'i chynnwys yn y diffiniad hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Craffu Technegol

Mae rhan o’r adroddiad sy’n ymdrin â chraffu technegol yn cyfeirio at un gwall drafftio. Mae’r adroddiad drafft yn nodi bod rheoliad 5(5)(c) yn darparu bod rhaid cyhoeddi cais amrywio… “mewn un neu ragor o bapurau newydd cenedlaethol”. Nid yw’r Rheoliadau yn nodi a yw “cenedlaethol” yn cyfeirio at bapurau newydd cenedlaethol Cymru ynteu bapurau newydd y DU, fodd bynnag.

Dyma safbwynt y Llywodraeth.

Mae rheoliad 5(5)(c) o’r Rheoliadau yn darparu bod rhaid i’r ymgeisydd gyhoeddi hysbysiad am y cais amrywio “yn Lloyd’s List ac mewn un neu ragor o bapurau newydd cenedlaethol”. Gan fod Lloyd’s List yn gyhoeddiad ar gyfer y DU mae’r cyfeiriad at “bapurau newydd cenedlaethol”, yn ei gyd-destun, yn gyfeiriad at bapurau newydd y DU.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn egluro y gallai cyrff y tu allan i Gymru fod â buddiant mewn cais amrywio (gweler y diffiniad o “caniatâd cynllunio perthnasol” yn rheoliad 2). Felly yng nghyd-destun y Rheoliadau cyfan, mae’r cyfeiriad at “bapurau newydd cenedlaethol” yn rheoliad 5(5)(c) yn gyfeiriad at bapurau newydd y DU.

O ganlyniad, nid ydym o’r farn fod angen diwygiad er mwyn ymdrin â’r pwynt craffu technegol.

Craffu ar Rinweddau

Mae’r rhan o’r adroddiad drafft sy’n ymdrin â chraffu ar rinweddau yn ymwneud â’r diffiniad o “awdurdod cynllunio perthnasol” yn rheoliad 2. Nodir nad yw’n eglur pam na chynhwyswyd corff cyfatebol ar Ynys Manaw yn y diffiniad hwn.

Fel yr eglurir ym mharagraff 4.8 o’r Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau, bwriad y polisi yw gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r hyn a geir yn Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru a Lloegr) 2013 (“Rheoliadau 2013”), ynghyd â mân ddiwygiadau, er mwyn adlewyrchu rôl Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod (cydsynio) priodol. Nid yw’r Rheoliadau yn cyflwyno polisi newydd na newidiadau i’r weithdrefn bresennol. Nid yw corff ar Ynys Manaw yn awdurdod cynllunio perthnasol at ddibenion Rheoliadau 2013. Mae’r diffiniad o “awdurdod cynllunio perthnasol” yn y Rheoliadau yn gyson â’r diffiniad yn Rheoliadau 2013 ac felly mae’n cyd-fynd â bwriad y polisi.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

13 Mawrth 2019